Neidiwch i’r prif gynnwys

Eryri Cydweithredol

Dyma Gwenda Hughes o gwmni Eryri Cydweithredol yn trafod sut y mae eu gwasanaeth E-sgwrs a’u prosiectau cynhwysiant digidol ledled Gwynedd wedi grymuso’u cymunedau ac atgyfnerthu’u hymgysylltiad.

Default Text

Mae Eryri Cydweithredol yn sefydliad nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn darparu gwasanaethau iechyd a lles ledled gogledd Cymru. Gyda chymorth Busnes Cymdeithasol Cymru, dechreuodd y fenter gydweithredol ddatblygu ac ehangu rhwydwaith o wirfoddolwyr er mwyn rhoi cymorth i unigolion bregus ac ynysig yn eu cymunedau. Mae Gwenda yn trafod y broses o ddechrau defnyddio gwasanaethau digidol wrth iddynt sefydlu gwasanaeth cyfeillio E-Sgwrs, gyda chefnogaeth Cymunedau Digidol Cymru.

Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]

Quotation mark

Mae wedi bod yn heriol ond mae mor gyffrous pan welwch chi rywun oedd heb unrhyw sgiliau digidol blaenorol yn gallu ymuno â chyfarfod Zoom neu’n gwneud eu siopa Tesco ar-lein. Does dim angen i chi boeni wedyn am yr unigolyn hwnnw na ble maen nhw’n mynd i gael bwyd.

Gwenda Hughes

Quotation mark

Mae ein gwaith yn tyfu ac yn ehangu a dydy’r angen hwnnw ddim yn mynd i ddiflannu oherwydd dydy pobl ddim am fynd yn ôl i weithio mewn swyddfeydd, felly mynd yn ddigidol yw’r ffordd ymlaen. Mae’n fater o addasu i’n ffordd o fyw, er budd a lles y bobl yr ydym yn cefnogi.

Gwenda Hughes