Neidiwch i’r prif gynnwys

The Mentor Ring: Cefnogi staff a gwirfoddolwyr drwy hyfforddiant cynhwysiant digidol

An older woman receiving help to use a laptop

Sujatha Thaladi o The Mentor Ring yng Nghaerdydd yn trafod sut mae hyfforddiant Cynhwysiant Digidol wedi cefnogi staff a gwirfoddolwyr.

Mae The Mentor Ring (TMR), elusen gofrestredig sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, yn cefnogi cymunedau trwy fentora ac arwain pobl o bob oedran a chefndir. Mae TMR yn ceisio chwalu rhwystrau sylweddol i gynhwysiant cymdeithasol trwy raglenni amrywiol sydd wedi’u teilwra i anghenion y gymuned leol. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys darparu sesiynau adolygu i bobl ifanc, dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill), cyfleoedd gwirfoddoli a dathlu amrywiaeth trwy gydol y flwyddyn. Yn ddiweddar, mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC) wedi bod yn helpu’r elusen i wella sgiliau digidol y rhai maen nhw’n eu cefnogi.

Pwysigrwydd hyrwyddo sgiliau digidol fel rhan o waith TMR

Mae Sujatha, Prif Swyddog Gweithredol TMR, yn rhannu sut mae’n bwysig i staff a gwirfoddolwyr TMR gael cyfleoedd i gael mynediad at hyfforddiant digidol wrth iddyn nhw gefnogi ystod amrywiol o gymunedau a chyflwyno rhaglenni amrywiol ar gyfer pobl Caerdydd. Gall hyn wella sgiliau, gwybodaeth a hyder unigolion, sydd nid yn unig yn eu cefnogi yn eu rolau ond hefyd y bobl a’r cymunedau mae TMR yn ymgysylltu â nhw ac yn eu cefnogi.

Eglura Sujatha: “Mae’r amgylchedd digidol yn newid mor gyflym ac mae’n bwysig ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn parhau i wella ein gwybodaeth. Rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o wasanaethau yn mynd ar-lein dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydyn ni’n deall ei bod yn bwysig cael y sgiliau a’r wybodaeth, yn enwedig o ran y rhaglenni a’r llwyfannau rydyn ni’n eu defnyddio yn ein rolau. Oherwydd gall hyn ein cynorthwyo yn y ffordd rydyn ni’n cyflawni tasgau ac yn cefnogi eraill.”

Meddai: “Rydyn ni’n parhau i roi cyfleoedd i bobl ddod i ymarfer eu sgiliau digidol yn ein canolfan, sydd gobeithio’n rhoi’r hyder iddyn nhw lywio’r byd ar-lein. Ar yr un pryd, mae’n rhoi cyfle i staff a gwirfoddolwyr ymgysylltu â defnyddwyr a’u gwneud yn ymwybodol o apiau defnyddiol a all fod o fudd iddyn nhw mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, addysgu a chodi ymwybyddiaeth o sut i  ddefnyddio Google Translate pan nad yw iaith gyffredin yn cael ei siarad.”

Gweithio mewn partneriaeth a nodi meysydd hyfforddi allweddol

Ar ôl cysylltu â TMR am y tro cyntaf, rhoddodd Cymunedau Digidol Cymru fanylion y cymorth sydd ar gael drwy ei raglen a sut y gall gefnogi staff a gwirfoddolwyr. Yna gweithiodd CDC yn agos gyda TMR i gynnal archwiliad sgiliau digidol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr. Roedd hyn yn galluogi CDC a TMR i nodi lefel sgiliau digidol a hyder staff a gwirfoddolwyr, a nodi’r pynciau hyfforddi a fyddai o fudd i’r bobl mae TMR yn eu cefnogi fwyaf.

Trwy’r archwiliad sgiliau digidol, roedd TMR yn gallu nodi’r sesiynau hyfforddi allweddol hyn. Yn yr achos hwn, roedd angen sesiynau yn canolbwyntio ar adnoddau digidol ar gyfer iechyd a llesiant, yn ogystal â diogelwch ar-lein. Gan gydnabod eu rôl fel mentoriaid a thywyswyr, bu staff a gwirfoddolwyr hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar helpu pobl i fynd ar-lein, gan ganfod sut i gefnogi eraill ar eu taith ddigidol. Cyflwynwyd y sesiynau hyn i gyd ar-lein, gan sicrhau hygyrchedd a hwylustod i bawb dan sylw.

Sicrhau mynediad teg i’r Rhyngrwyd

Tra bod TMR wedi manteisio ar yr hyn a gynigir gan Gymunedau Digidol Cymru, mae Sujatha yn sylweddoli nad oes gan bawb y mae’n eu cefnogi y moethusrwydd o fynediad hawdd ar-lein er mwyn parhau i ddatblygu sgiliau gartref. Gall hyn fod am resymau fel cost a llythrennedd digidol, ond gall ffactorau cymdeithasol a diwylliannol mwy cymhleth fod ar waith hefyd.

Meddai: “Mae pawb yn siarad am ddigidol. Mae pobl yn cael eu cyfeirio at lwyfannau rhyngrwyd i gyflawni tasgau ar gyfer bywyd bob dydd, ond mae’n bwysig sylweddoli nad oes gan bawb fynediad i’r rhyngrwyd yn 2024 am amrywiaeth o resymau.”

Gan obeithio gallu manteisio ar eu dylanwad ar newid cadarnhaol, mae TMR eisoes yn aelod o’r Internet Society, sefydliad sydd wedi ymroi i hyrwyddo’r Rhyngrwyd fel seilwaith technegol byd-eang, gan gyfoethogi bywydau pobl, ac fel grym er daioni mewn cymdeithas. Ar ôl cael gwybod am Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, maen nhw bellach yn ystyried ymuno â’r rhwydwaith sy’n dod â sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd sy’n cydweithio i wneud Cymru’n genedl ddigidol gynhwysol. Yn ogystal, mae TMR hefyd yn ystyried ymuno â’r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol, rhwydwaith o sefydliadau yn y DU sy’n rhoi cymorth lleol am ddim i bobl ddefnyddio’r rhyngrwyd, a sefydlwyd gan bartneriaid rhaglen CDC, sef y Good Things Foundation.

Meddyliau terfynol gan Sujatha

“Mae’r hyfforddiant gafodd TMR wedi ein helpu i fod yn fwy ymwybodol o lywio’r rhyngrwyd a chael mynediad at adnoddau a llwyfannau digidol sy’n bwysig i’n cymunedau. Er enghraifft, mae’r sesiynau diogelwch ar-lein wedi’n helpu i fod yn fwy ymwybodol a beirniadol ein meddwl pan fyddwn ni, neu ein defnyddwyr, yn ansicr ynglŷn â negeseuon a negeseuon e-bost gan bobl anhysbys.

“Mae’r gefnogaeth a dderbyniwyd trwy hyfforddiant wedi bod yn fuddiol iawn i staff a gwirfoddolwyr, gan eu galluogi i ddefnyddio’u gwybodaeth ddigidol newydd mewn amrywiol agweddau ar eu bywydau, boed yn bersonol neu’n broffesiynol. Gan dderbyn yr hyn a ddysgwyd gan Gymunedau Digidol Cymru, rydyn ni bellach yn gallu rhaeadru gwybodaeth yn well i’r bobl sydd angen ein cymorth a’n help i fynd ar-lein neu wneud y gorau o gysylltedd digidol.”

Wrth siarad am y gwaith cynhwysiant digidol mae Sujatha a The Mentor Ring yn ei wneud, dywedodd Mohammed Basit, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol CDC ar gyfer Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig: “Mae wedi bod yn wych ymgysylltu â Sujatha a rhoi cefnogaeth i TMR trwy hyfforddiant a all fod o fudd i staff, gwirfoddolwyr a mentoriaid. Mae TMR yn darparu rhaglenni gwych ar gyfer y cymunedau lleol, ac rydyn ni’n gobeithio y gall unrhyw ddysgu gael ei raeadru i’r buddiolwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda TMR.”

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth cynhwysiant digidol ar gyfer cymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru, cefnogaeth, neu hyd yn oed dim ond sgwrs, cysylltwch â Mohammed, drwy e-bostio mohammed.basit@cwmpas.coop neu ffoniwch 07824 035880.