Neidiwch i’r prif gynnwys

Ble i ddechrau – Hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru

A senior man and woman smile while looking at a tablet device.Yn CDC, rydym yn falch o gynnig gwasanaeth hyfforddi am ddim i gefnogi pobl Cymru gyda’u sgiliau digidol, hyder a lles. Rydym yn darparu ystod o hyfforddiant o fewn y categorïau hyn:

  1. Gwirfoddoli
  2. Iechyd a lles
  3. Sgiliau sylfaenol a hanfodol
  4. Diogelwch ar-lein
  5. Hygyrchedd digidol
  6. Ysbrydoli gweithgareddau digidol
  7. Iaith Gymraeg

Mae llawer o’n hyfforddiant yn cynnwys meysydd yn y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol. Rydym yn cynnig hyfforddiant sgiliau digidol pwrpasol a chymorth i sefydliadau, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Mae croeso i chi bori trwy ein categorïau hyfforddi am ragor o wybodaeth ac adnoddau y mae croeso i chi eu defnyddio a’u rhannu.

Hyfforddiant

Mae ein hyfforddwyr profiadol yn darparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr ar draws pob sector yng Nghymru. Rydym yn cynnig pedwar math o hyfforddiant: Ein sesiynau sgiliau digidol am ddim; hyfforddiant ar-lein; hyfforddiant wyneb yn wyneb neu hyfforddiant hybrid.

Os ydych yn fudiad, yn wirfoddolwr neu’n grŵp gwirfoddol ac yn dymuno archebu neu drafod hyfforddiant gyda ni, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.

Archwiliad sgiliau

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn deall sgiliau digidol a hyder eich sefydliad. Rydym wedi creu arolwg archwilio sgiliau sy’n eich helpu i ddeall hyn. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, byddwn yn dadansoddi’r canlyniadau ac yn darparu rhaglen hyfforddi arbenigol i chi wedi’i chynllunio ar gyfer eich cydweithwyr. Gwyliwch ein fideo esboniadol am ragor o wybodaeth am archwiliadau sgiliau:

Diddordeb mewn bod yn Wirfoddolwr Digidol?

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn cefnogi rhywun gyda’u sgiliau digidol. Rydym yn cynnig hyfforddiant ar gyfer dau fath o wirfoddoli digidol: Hyrwyddwyr Digidol ac Arwyr Digidol. Ewch i’n tudalen wirfoddoli am ragor o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i ddechrau ar eich taith wirfoddoli ddigidol.

Cymunedau cynhwysol

Mae’r Rhyngrwyd i bawb. Gall cymunedau lleiafrifoedd ethnig wynebu heriau i fod ar-lein sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fynediad at ddyfeisiau a chysylltedd priodol a llywio’r byd ar-lein ac adnoddau sy’n gysylltiedig ag ef mewn iaith nad yw’n iaith gyntaf iddynt. Nod Cymunedau Digidol Cymru yw newid hyn, drwy gefnogi cymunedau i fanteisio ar bopeth sydd gan ddigidol i’w gynnig. Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru i helpu pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth fynd ar-lein, gan greu cyfleoedd i fwy o gymunedau yng Nghymru a dod â phobl ynghyd. I gael rhagor o fanylion a chymorth, cysylltwch â’n Cydlynydd Cynhwysiant Digidol, Mohammed Basit – mohammed.basit@cwmpas.coop.

Cysylltedd a chefnogaeth

Mae partner Cymunedau Digidol Cymru, Good Things Foundation, yn helpu miloedd o bobl agored i niwed mewn cymunedau ar draws y DU i gysylltu drwy eu Banc Data Cenedlaethol. Mae’r banc data yn mynd i’r afael â thlodi data yn uniongyrchol drwy ddarparu SIMS a data symudol am ddim i bobl mewn angen.

Gall sefydliadau cymunedol ymuno â’r Banc Data Cenedlaethol ar ôl cofrestru i ddod yn Ganolfan Ar-lein. Ar ôl cofrestru, gall grwpiau gael data symudol am ddim i’w ddosbarthu i aelodau eu cymuned, fel eu bod yn gallu cael mynediad a mwynhau holl fanteision bod ar-lein.

Gall sefydliadau gysylltu â Chymunedau Digidol Cymru am ragor o gymorth cynhwysiant digidol. Rydym bob amser wrth law i ateb cwestiynau a chynnig arweiniad, ynghylch cysylltedd Rhyngrwyd, data a dyfeisiau i grwpiau sy’n gweithio i hyrwyddo cynhwysiant digidol. Am unrhyw ymholiadau, defnyddiwch y botwm ‘cysylltu â ni’ isod.

Fe hoffem glywed gennych chi

Cysylltu â ni
Dyn yn dysgu rhywun sut i ddefnyddio cyfrifiadur