Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwirfoddolwyr digidol

Mae gwirfoddolwyr digidol yn gwneud cyfraniad allweddol wrth helpu pobl i fynd ar-lein yng Nghymru. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn chwilio am bobl â sgiliau digidol sylfaenol sydd eisiau helpu pobl eraill i elwa ar dechnoleg ddigidol.

Cysylltwch â ni i wirfoddoli
Gwirfoddolwr digidol yn helpu dyn i ddefnyddio cyfrifiadur y llyfrgell

Beth yw gwirfoddolwyr digidol?

Rhywun sy’n cynnig cymorth i helpu pobl i fynd ar-lein a defnyddio technoleg ddigidol. Dydyn nhw ddim yn cael unrhyw dâl am wneud hyn – ond yn hytrach, yn rhoi o’u hamser i drosglwyddo eu sgiliau digidol.

Pobl â sgiliau TG sylfaenol a’r amser, amynedd a brwdfrydedd i’w trosglwyddo yw gwirfoddolwyr digidol.

Pam rydyn ni angen gwirfoddolwyr digidol?

Yma yng Nghymru, does gan 180,000 o bobl mo’r sgiliau, y cymhelliant na’r cyfle i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Yn aml, gwirfoddolwyr yw’r ffordd orau o’u cyrraedd.

Ein rhaglenni gwirfoddoli digidol

Mae gan Cymunedau Digidol Cymru dri chynllun gwirfoddoli digidol.

Hyrwyddwyr Digidol

Weithiau, maen nhw’n bobl sy’n newydd i wirfoddoli ond sydd eisiau trosglwyddo eu sgiliau digidol. Efallai eu bod eisoes yn aelod o staff neu’n gwirfoddoli gyda’ch sefydliad ac eisiau datblygu eu sgiliau digidol. Mae hyrwyddwyr yn aml yn gweithio mewn llyfrgelloedd, mewn ysbytai, cartrefi gofal neu gyda chymdeithasau tai, gan helpu pobl un i un neu gynnal sesiynau grŵp bach.

Gallwn gefnogi pobl i ddod yn Hyrwyddwyr Digidol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich sefydliad.

Cynnal gwirfoddolwyr yn eich sefydliad
Gwirfoddolwr digidol yn helpu pobl hŷn

Arwyr Digidol

Pobl ifanc yw’r rhain, wedi’u hyfforddi gan Cymunedau Digidol Cymru yn yr ysgol neu’r coleg cyn mynd ymlaen i rannu eu sgiliau â phobl hyn. Mae’r cynllun yn dod â’r hen a’r ifanc ynghyd i ddefnyddio a mwynhau’r dechnoleg gyda’i gilydd. Gall myfyrwyr Bagloriaeth Cymru wneud her gymunedol Arwyr Digidol wedi’i hachredu fel rhan o’u cymhwyster.

Darllenwch fwy am Arwyr Digidol
Mae Digital Hero yn helpu menyw gyda ffôn symudol

Cyfeillion Digidol

I lawer nad ydynt ar-lein, y person gorau i’w helpu yw ffrind neu aelod o’r teulu sy’n eu hadnabod yn dda ac sy’n gallu cydweithio â nhw i oresgyn eu hofnau a magu hyder. Gall Cymunedau Digidol Cymru hyfforddi a helpu pobl sydd angen cymorth gan gyfaill i ddefnyddio technoleg ddigidol.

Dewch yn Gyfeillion Digidol
dyn iau yn dangos dyn hŷn sut i ddefnyddio cyfrifiadur

Astudiaethau achos