Creu cyfleoedd ariannol anghyfartal: problem tlodi data Cymru
A oes cysylltiad rhwng allgau digidol a chaledi ariannol?
Pan rydym yn meddwl am y 7% o bobl yng Nghymru sydd ddim ar-lein, rydym yn aml yn tybio ei fod oherwydd rhwystrau fel sgiliau a chymhelliant y mae’n rhaid i ni eu goresgyn er mwyn manteisio ar offer a gwasanaethau digidol.
Yn anffodus, mae yna nifer o bobl yng Nghymru sydd â’r awydd i fod yn ddigidol ond nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny. Oherwydd eu sefyllfa ariannol, maent yn cael eu hallgáu’n ddigidol yn gynyddol. Yma, gan eu bod yn cael eu hallgáu’n ddigidol, mae’n cael effaith ar eu bywydau ariannol – lle, yn eironig, i’r unigolion hyn ag incwm isel a allai elwa fwyaf o gynilion a gwasanaethau ar-lein, nid ydy hi’n bosib bod yn ddigidol. Gelwir y profiad hwn y mae pobl yn aml yn profi yn ‘dlodi data’ ac mae’n creu sefyllfa nad yw’n rhoi chwarae teg i lawer o unigolion o gefndiroedd incwm isel.
Archwilio tlodi data
Yn rhyfeddol, mae 18% o bobl mewn tai cymdeithasol yng Nghymru yn dal i fod heb fynediad i’r rhyngrwyd. Mae hyn o’i gymharu â’r 6% sydd ddim yn ddefnyddwyr digidol yn y farchnad rhentu preifat, ac mae’r cysylltiad rhwng sefyllfa ariannol wael ac allgáu digidol yn dod yn gliriach fyth. Yn syml, y lleiaf o incwm gwario sydd gennych chi (neu’ch teulu), y mwyaf tebygol ydych chi o fod yn colli allan ar ystod o gyfleoedd digidol sydd o fudd ariannol.
Mae pobl sy’n profi tlodi data yn aml yn darganfod eu bod yn methu â gwneud cais am swydd, bancio na chael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd a budd-daliadau ar-lein. I unigolion sydd mewn sefyllfa ariannol ansefydlog ac mewn tlodi data, mae hyn yn creu cylch adborth diderfyn lle mae hi’n fwyfwy amhosib iddynt ddianc o’u sefyllfa.
Mae tlodi data yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai o fewn y band incwm isaf, yn dieithrio unigolion ar draws grwpiau oedran ac yn gadael cymunedau yng Nghymru ar ôl.
Wrth i wasanaethau’r llywodraeth, yn enwedig y rhai ar gyfer pobl â’r incwm isaf, symud i ddull Digidol yn Gyntaf, disgwylir y bydd hyd yn oed fwy o angen i bontio’r bwlch tlodi data.
Pa les yw data heb sgiliau?
Ymddengys felly mai data rhatach sy’n rhoi chwarae teg i unigolion sy’n ceisio torri cylch o galedi ariannol. Yn sicr, gall hyn fod yn wir, ond dim ond os yw’r unigolyn sy’n ceisio dod o’i sefyllfa yn defnyddio’r data mewn ffyrdd sy’n cefnogi eu taith tuag at les ariannol.
Mae datblygu sgiliau digidol sy’n cael eu gwerthfawrogi yn y gweithle yn un defnydd buddiol o ddata mwy niferus, ac maent i gyd, i’r rhai sydd am gymryd yr amser i ddysgu, yn sgiliau cyraeddadwy. Yn galonogol, canfu un adroddiad bod 25% o’r rheini heb unrhyw addysg ffurfiol yn y DU hefo bob un o’r pum sgil gwaith digidol hanfodol.
Er bod mynediad at ddata fforddiadwy yn gosod sylfaen i unigolion sy’n ceisio creu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain, rhaid i sefydliadau sy’n gweithio i greu cyfle cyfartal wneud mwy i adnabod unigolion sydd am fanteisio fwyaf yn ariannol o well mynediad at ddata. Yn ogystal â hyn, rhaid gweithio gyda nhw i ddatblygu’r sgiliau digidol sydd eu hangen er mwyn sicrhau dyfodol ariannol addawol.
Mae’r angen hwn am gyfleoedd digidol tecach yn atgyfnerthu’r achos dros ‘Osod Isafswm Safon Byw Digidol i Gymru’, a gynigiwyd gan Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Byddai’r nod realistig hwn o safon ofynnol yng Nghymru yn gweld dyfeisiau a data yn cael eu dosbarthu i’r rhai a fyddai fel arall yn cael eu gadael ar ôl, gan hefyd gefnogi datblygiad sgiliau ac annog cymhelliant, fel bod unigolion yn gallu elwa’n llawn o’u cysylltedd newydd.
Ffyrdd o helpu pobl i gael gafael ar gymorth a gwasanaethau ar-lein
Gallwch chi helpu i leihau tlodi data drwy ddweud wrth unigolion mewn angen am y sefydliadau sydd eisoes yn gweithio i gau’r bwlch cyfleoedd digidol ledled Cymru a gweddill y DU.
Cysylltedd gartref cost is i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol. Gall pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn gael hyd at 67Mbps o fand eang ffibr am £15 y mis yn unig heb unrhyw ffioedd gadael yn gynnar.
-
Vodafone: Buy One Give One
Wrth ddod yn rhan o ‘Vodafone Together household’, mae Vodafone yn rhoi cysylltedd di-dâl i rywun sy’n byw mewn tlodi digidol am hyd at flwyddyn drwy eu partner elusennol, Ymddiriedolaeth Trussell. Gall banciau bwyd sy’n rhan o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell archebu a dosbarthu cardiau sim i unigolion a allai elwa o 20GB o ddata ynghyd â galwadau a negeseuon testun diderfyn am hyd at flwyddyn. Mae’r cynllun yn rhedeg tan fis Medi 2022.
Elusen genedlaethol sy’n darparu cymorth ymarferol i bobl sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol. Maent yn helpu pobl sy’n profi caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth. Gellir cael hyd i gymorth a chyngor ar-lein, dros y ffôn, trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb, trwy sefydliadau partner a thrwy eu rhwydwaith o wirfoddolwyr.
Pecyn band eang hyblyg 30 diwrnod gyda chyflymder lawrlwytho hyd at 54Mbps, ar gael i’r rheini sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
Prosiect mewn cydweithrediad â Virgin Media O2 i ddosbarthu gwerth £12.5 miliwn o ddata ledled y DU. Bydd yn cael ei gyflwyno ledled y wlad ar ddechrau 2022 a gellir cael mynediad ato drwy rwydwaith ‘Canolfannau Ar-lein’ Good Things Foundation. (yn treialu gyda 10 canolfan ar hyn o bryd, un yng Nghymru).
Rydym am sicrhau bod gan bob dinesydd yng Nghymru’r sgiliau a’r hyder i ymgysylltu â thechnoleg. Cymerwch ran yn ein cwrs 6 wythnos cynhwysfawr mynediad am ddim, unrhyw bryd, sy’n canolbwyntio ar y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol.