Neidiwch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant cynhwysiant digidol

Mae amrywiaeth eang o hyfforddiant ar gynhwysiant digidol ar gael gan Cymunedau Digidol Cymru i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr er mwyn rhoi’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth iddyn nhw allu defnyddio’r dechnoleg eu hunain a helpu eraill i wneud yr un peth. Mae ein hyfforddiant yn rhad ac am ddim, yn hyblyg, ac wedi’i deilwra’n llwyr, wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion eich sefydliad.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Cynnal Cynhwysiant Digidol yng Nghanolfan ASK yn y Rhyl. Tiwtor Deian ap Rhisiart gyda Michelle Archer, Natasha Harper a Nikki Wilson.

Pwy ydyn ni’n eu hyfforddi?

Mae ein hyfforddwyr profiadol yn darparu hyfforddiant i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr, gan gynnwys staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol, gofalwyr, cynghorwyr, llyfrgellwyr. Lle bo modd, rydyn ni’n meithrin dull ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ er mwyn helpu i raeadru sgiliau o fewn eich sefydliad.

Pam archebu hyfforddiant gan Cymunedau Digidol Cymru?

  • Mae’n rhad ac am ddim.
  • Mae’n cael ei ddarparu yn eich canolfan, neu mewn lleoliad a ddewiswyd gan eich sefydliad.
  • Rydym yn cynnig mynediad i lyfrgell helaeth o adnoddau hyfforddiant ar ôl bob sesiwn.
  • Dim ond sgiliau TG sylfaenol sydd eu hangen ar bobl er mwyn cymryd rhan.
  • Mae’r sesiynau wedi’u teilwra’n llawn i ddiwallu anghenion eich sefydliad.
  • Gallwn gyflwyno sesiwn untro neu gyfres o sesiynau ar ffurf modiwlau.

Beth sy’n rhan o’r hyfforddiant?

Mae ein holl hyfforddiant wedi’i gynllunio’n unswydd i chi, felly does gennym ni ddim rhaglen o gyrsiau penodol. Gall sesiynau gynnwys unrhyw un o’r elfennau canlynol;

Beth yw allgáu digidol a pham mae’n bwysig – gallwn gyflwyno’r cysyniad o gynhwysiant digidol i aelodau’r staff fel eu bod nhw’n fwy ymwybodol o effaith hynny, pam mae’n bwysig, a beth ellir ei wneud i’w leihau.

Gwefannau ac apiau – sut gallwch chi ysbrydoli ac ysgogi pobl i roi cynnig ar dechnoleg ddigidol? Pa wefannau, apiau ac adnoddau mae modd eu defnyddio i ddangos beth sydd gan y rhyngrwyd i’w gynnig i bobl? Gallwch deilwra’r sesiwn hon i ddiwallu anghenion a buddiannau grwpiau defnyddwyr penodol fel trigolion cartref gofal, pobl ddi-waith, neu bobl â chyflyrau iechyd penodol.

Dyfeisiau digidol – gallwn gynnal sesiynau lle gall staff rheng flaen a gwirfoddolwyr roi cynnig ar ddyfeisiau technegol fel clustffonau rhithwir, tracwyr ffitrwydd a seinyddion clyfar fel Amazon Echo Dot. Sesiynau ymarferol yw’r rhain, sy’n rhoi rhwydd hynt i bobl ddefnyddio technoleg am y tro cyntaf o bosib a meithrin dealltwriaeth well o’r adnoddau digidol a allai helpu’r rhai a gynorthwyir ganddynt.

Sgiliau meddal – mae angen sgiliau cyfathrebu, amynedd, brwdfrydedd a hyder er mwyn dangos i rywun sut i ddefnyddio dyfais ddigidol. Mae ein hyfforddiant yn helpu staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau cynhwysiant digidol meddal hyn.

Diogelwch ar-lein – byddant yn dysgu am breifatrwydd a diogelwch ar-lein i ddiogelu nid dim ond nhw eu hunain, ond er mwyn helpu eraill i wneud yr un fath hefyd. Mae pryderon am ddiogelwch ar-lein, twyll, seibrfwlio a newyddion ffug yn gryn rwystr i bobl ddefnyddio’r we, felly nod ein sesiynau yw helpu pobl i oresgyn eu hofnau trwy wybod sut i adnabod peryglon a’u lleihau.

Mae ein holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar-lein ar hyn o bryd. Mae ein rhaglen gweminar yn cynnwys manylion yr holl sesiynau hyfforddi cynhwysiant digidol sydd ar y gweill gennym.

Porwch raglen gweminar
Dynes yn gwylio gweminar DCW

Astudiaethau achos