Sut y gallwn ni helpu?
Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl a fyddai’n elwa o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol.
Mae’n brosiect Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chyflwyno gan Ganolfan Gydweithredol Cymru.
Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys:
- Asesiad cynhwysiant digidol – Asesiad cychwynnol o’ch sefydliad er mwyn eich helpu chi i ddatblygu a darparu gweithgareddau cynhwysiant digidol.
- Hyfforddiant digidol i staff a gwirfoddolwyr rheng flaen – Hyfforddiant i aelodau staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn effeithiol ac yn ddiogel – mwy o wybodaeth.
- Benthyg offer digidol – Benthyciadau tymor byr o offer digidol, gan gynnwys llechi, gliniaduron a Fitbits er mwyn eich galluogi chi i ddarparu gweithgareddau digidol.
- Cymorth gwirfoddolwyr digidol – Cymorth i ddatblygu rhaglen gwirfoddoli digidol, paru sefydliadau â gwirfoddolwyr digidol a hyfforddi gwirfoddolwyr presennol. Yn ogystal, mae cyfleoedd ar gael i ymgysylltu â’n rhaglen Arwyr Digidol – mwy o wybodaeth.
- Achrediad cynhwysiant digidol – Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn dangos bod eich sefydliad wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag allgáu digidol – mwy o wybodaeth.
- Partneriaethau – Mae croeso i bob sefydliad ymuno â’n rhwydwaith o bartneriaethau Mynd Ar-lein, sydd wedi cael eu datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru. Yn ogystal, rydym yn datblygu partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n awyddus i gydweithio er mwyn datblygu nodau cynhwysiant digidol.
Gallwn weithio ledled Cymru gydag unrhyw sefydliad sy’n cefnogi pobl a fyddai’n elwa o fynd ar-lein.
Mwynhaodd staff y llyfrgell yr hyfforddiant, gan adael yn llawn brwdfrydedd am helpu ein cwsmeriaid. Mae nifer wedi gofyn am hyfforddiant pellach yn y dyfodol agos.
Bethan Lee, Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot
Rwyf yn gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr. Nawr, rydw i’n datblygu Polisi Cynhwysiant Digidol ac yn cydweithio â Choleg Cambria i ddarparu cyrsiau blasu sgiliau TG a chyflogadwyedd.
Shirley McCann, Stepping Stones