Pen-blwydd hapus yn 5 oed i Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru: y grym y tu ôl i gynhwysiant digidol hollbwysig
Mae stori Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) yn un o gydweithio, cydgysylltu ac ymrwymiad i bontio’r bwlch digidol.
Mae Cwmpas wedi bod yn darparu rhaglenni cynhwysiant digidol ar ran Llywodraeth Cymru ers 20 mlynedd. Yn 2019, fel rhan o raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, tyfodd y syniad i ddatblygu cynghrair sy’n cynnig lle i bawb ar gyfer ‘cynhwysiant digidol’, ac i godi ei broffil fel rhan bwysig o’r gwaith o greu strategaethau a pholisïau yng Nghymru.
Dechreuodd y Gynghrair ym mis Ionawr 2020 gyda 22 unigolyn angerddol oedd â’r un weledigaeth, sef archwilio sut gallen nhw feithrin cynhwysiant digidol ledled y wlad.
Yn ystod COVID-19, roedd angen mynediad at y rhyngrwyd ac offer digidol ar fwy o bobl nag erioed i weithio, dysgu, a pharhau i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau. Mewn ymateb, daeth y Gynghrair yn lle ar gyfer cydweithio, gan weithio i osgoi dyblygu a gwastraff adnoddau, ac i gysylltu pobl â’r adnoddau yr oedd eu hangen arnyn nhw.
Erbyn mis Mawrth 2021, roedd y Gynghrair yn barod i gyhoeddi ei Hagenda gyntaf ar gyfer Cynhwysiant Digidol, gan nodi blaenoriaethau a chanlyniadau allweddol sy’n gwasanaethu fel cynllun gweithredu ar gyfer y gwaith o fynd i’r afael ag allgáu digidol.
Wrth i’r Gynghrair dyfu, felly hefyd yr oedd yr angen am ffordd fwy strwythuredig yn sgil sefydlu Grŵp Llywio a Rhwydwaith.
Yn 2023, cyhoeddodd y Gynghrair ail argraffiad ei hagenda, gan adlewyrchu’r cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd blaenorol. Amlinellodd y ddogfen ddiweddaraf nodau a chamau gweithredu diwygiedig, yn seiliedig ar anghenion y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus. Yn 2024, cyhoeddwyd adroddiad cynnydd.
Un o’r dangosyddion mwyaf arwyddocaol o lwyddiant y Gynghrair yw’r cynnydd yn ei haelodaeth. O ddim ond 22 o sefydliadau, mae wedi tyfu i fod yn gymuned o dros 120 o aelodau, gyda phob un wedi’i uno gan yr un gred ym mhwysigrwydd mynediad cyfartal at offer ac adnoddau digidol.
Mae’r aelodaeth yn cwmpasu amrywiaeth eang o sefydliadau, o bob maint ac o bob sector ac ardal yng Nghymru. Mae croeso i bob sefydliad sydd â diddordeb mewn cynhwysiant digidol. Os ydych chi am gymryd rhan, gallwch gofrestru yma.
Ers mis Hydref 2023, mae gwaith y Gynghrair wedi cael ei siartio gan gyfres o adroddiadau ‘Archwilio Effaith’, sy’n cynnig safbwyntiau gwerthfawr ar gyflwr cynhwysiant digidol ledled Cymru. Mae’r adroddiadau hyn hefyd yn helpu gydag eiriolaeth, gan godi ymwybyddiaeth o’r heriau a’r cyfleoedd mewn cynhwysiant digidol.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwledydd datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac awdurdodau lleol yn Lloegr, oll wedi ymgynghori â’r Gynghrair ar sut i greu eu cynghreiriau cynhwysiant digidol eu hunain. Gofynnwyd hefyd i’r Gynghrair gyflwyno tystiolaeth gerbron Pwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ’r Arglwyddi yn ystod ei ymchwiliad i gynhwysiant digidol.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r angen am gymorth parhaus ar gyfer cynhwysiant digidol yn dal i fod mor gryf ag erioed. Dyw heriau’r pandemig ddim wedi diflannu. Yn hytrach, maen nhw wedi esblygu.
Mae costau byw cynyddol, y newidiadau yn y gweithlu, a’r trawsnewidiad digidol parhaus o wasanaethau yn gofyn am ymdrech ar y cyd i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a bod yr effeithlonrwydd a ddisgwylir o drawsnewid digidol yn cael eu gwireddu.
Yn ei Strategaeth Ddigidol i Gymru, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru fod cynhwysiant digidol yn fater i bawb a bod yn rhaid iddo barhau i fod yn flaenoriaeth. Mae’r Strategaeth Ddigidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal yng Nghymru yn canolbwyntio ar gynhwysiant digidol.
Ond nid mater o bolisi yn unig yw cynhwysiant digidol – mae’n fater dynol. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u hamgylchiadau, yn cael cyfle i ymwneud â’r byd digidol. Boed yn cael mynediad at wasanaethau hanfodol, cymryd rhan mewn addysg, neu’n cysylltu ag anwyliaid, mae cynhwysiant digidol yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau.
Mae hefyd yn fater economaidd. Mae’r trawsnewidiad digidol o wasanaethau yn ehangu’n gyflym, ond gyda 22% o boblogaeth Cymru sy’n oedolion yn brin o sgiliau digidol hanfodol, gan gynyddu i 59% i bobl dros 75 oed, fydd yr enillion disgwyliedig o ran cynhyrchiant ddim yn cael eu gwireddu heb ymdrechion i sicrhau cynhwysiant digidol.
Mae adroddiad 2022 gan y Good Things Foundation a phartneriaid yn nodi costau a buddion buddsoddi mewn cynhwysiant digidol. Canfu’r ymchwil y gallai buddsoddiad o £1.4 biliwn gyfrannu £13.7 biliwn at economi’r DU. Mae hyn yn elw o £9.48 am bob £1 sy’n cael ei buddsoddi.
Mae’r Gynghrair yn chwarae rhan hollbwysig yn yr ymdrech hon, gan roi lle ar gyfer cydweithio, dysgu a gweithredu.
Mae’r Gynghrair yn parhau i eiriol dros bolisïau sy’n blaenoriaethu cynhwysiant digidol, ac yn galw ar unigolion, sefydliadau a chyrff y Llywodraeth i gefnogi’r genhadaeth hollbwysig hon. Fel un o’r prif leisiau ym maes cynhwysiant digidol yng Nghymru, mae’r Gynghrair yn cynnig llwyfan i’r rhai sydd weithiau’n cael eu hanwybyddu ac yn chwyddo eu lleisiau mewn sgyrsiau pwysig.
Mae dyfodol cynhwysiant digidol yn un disglair, ond mae angen cymorth, cydweithio ac ymrwymiad parhaus gan bob rhan o gymdeithas.
Nid rhywbeth braf yn unig i’w gael yw cynhwysiant digidol. Mae’n rhan hanfodol o adeiladu cymdeithas gydradd a ffyniannus. Yn 2025 a thu hwnt, bydd y Gynghrair yn parhau i fod yn rym ysgogol wrth sicrhau bod gan bawb yng Nghymru yr offer a’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnyn nhw i gymryd rhan lawn yn ein byd cynyddol ddigidol.
Gadewch i ni gadw cynhwysiant digidol ar frig yr agenda a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn yr oes ddigidol.
Barn Ein Haelodau
Un o’r prif resymau dros lwyddiant y Gynghrair yw ei chysylltiad â’i haelodau. Yr aelodau yw’r grym y tu ôl i’w gwaith, gan gynnig safbwyntiau, arbenigedd ac ymrwymiad i gynhwysiant digidol. Drwy wrando ar ei haelodau a gweithio ochr yn ochr â nhw, mae’r Gynghrair yn sicrhau bod ei gweithredoedd yn adlewyrchu anghenion y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae adborth aelodau yn amlygu’n gyson bwysigrwydd y gofod y mae’r Gynghrair yn ei gynnig – gofod i gydweithio, rhannu gwybodaeth, a chydweithredu. Mae’r amgylchedd cydweithredol hwn wedi bod yn hollbwysig wrth sbarduno twf ac effaith dros y pum mlynedd diwethaf.
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo’n llwyr i wella cynhwysiant digidol ledled ein rhanbarth, gan gydnabod yr effaith sylweddol y mae’n ei chael ar iechyd a lles. Mae CCDC wedi bod yn allweddol wrth yrru’r agenda hon ymlaen, gan sicrhau y gall pawb, waeth beth fo’u llythrennedd digidol neu eu mynediad at dechnoleg, elwa o wasanaethau iechyd digidol. Mae gwaith CCDC yn hollbwysig i iechyd a lles ein poblogaeth. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gefnogi a chydweithio â CCDC i sicrhau y gall pawb elwa o’r cyfleoedd y mae gwasanaethau iechyd digidol yn eu cynnig.” – Anthony Tracey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
“Mae wir yn fraint bod yn rhan o’r CCDC ac yn aelod o’r Grŵp Llywio. Ein huchelgais yn DVLA yw helpu i dyfu’r system eco ddigidol ledled y rhanbarth a thu hwnt ac mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â blaenoriaethau’r Gynghrair. Bu’n fuddiol ac ysbrydoledig iawn gweld yn uniongyrchol beth mae eraill yn ei wneud a chwarae rhan wrth yrru’r agenda ar gyfer cynhwysiant i Gymru. Bu straeon llwyddiant dirifedi ers i ni ymuno ac mae’n galonogol gweld yr effaith y mae cysylltu sefydliadau tebyg â’i gilydd mewn un glymblaid yn gallu ei chael.” – Simon Cromwell, DVLA
“Mae bod yn rhan o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn hynod fuddiol i’n sefydliad. Mae’r Gynghrair nid yn unig wedi ein cysylltu â sectorau amrywiol a gweithwyr proffesiynol sy’n arwain ymdrechion i fynd i’r afael â chynhwysiant digidol, ond mae hefyd wedi hwyluso’r arfer o rannu gwybodaeth ynghylch mentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.” – Ashley Bale, Innovate Trust
Mae’r Gynghrair yn dangos grym a gwerth dod â phobl ynghyd o wahanol fathau o sefydliadau o amgylch agenda a rennir. Dwi’n credu bod y gynghrair wedi bod yn allweddol wrth godi cynhwysiant digidol yn uwch ar agenda Llywodraeth Cymru, ac i eraill ledled Cymru, a symud y Safon Ofynnol ar Gyfer Bywyd Digidol i Gymru yn ei blaen.” – Emma Stone, Good Things Foundation
Cymorth anhygoel a chyson, mewnwelediad ac eglurder ar gyfer y cwrs Meistr mewn trawsnewidiadau digidol sydd wedi cael effaith wirioneddol ar y carfannau o fyfyrwyr sydd mewn swyddi rheoli ym maes iechyd ledled Cymru.
Simon Read, Prifysgol De Cymru